Mae diwedd y gwanwyn yn amser gwych i fod yn Y Wladfa - dyna pryd mae y ffermydd mawr yn cynnal eu harwerthiannau defaid a gwartheg. Ac mae gwahoddiad i bawb. Ychydig wythnosau yn ôl, cynhaliwyd arwerthiant ar fferm Leleque ("Estancia" yn Sbaeneg), fferm o bron i filiwn o erwau ger Esquel, sy'n berchen i'r teulu Benetton o'r Eidal. Gwerthwyd ychydig gannoedd o hanifeiliaid - mae'r fferm ei hun yn berchen ar dros 100,000 o ddefaid Merino, a bron i 9,000 o wartheg Henffordd. Cafodd y gwesteion fwynhau gwledd cyn yr arwerthiant, a chafodd eu bysedd bidio eu llacio gan weinyddion yn cario hambyrddau llawn wisgi a gwin.
Ym mis Mawrth, tro Estancia Tecka oedd hi i gynnal yr arwerthiant. Mae'r estancia 70,000 hectar yn gartref i un o gabanau pysgota plu pwysicaf Patagonia, ac yn gartref i nifer dda o ddefaid a gwartheg. Gyrrasom i lawr i dref fach Tecka (Hafn Lâs yn Gymraeg), tua 90 km i'r de o Esquel, gyda'r bwriad o brynu ychydig o wartheg ar gyfer y fferm deuluol. Ar ôl cinio ardderchog fe werthwyd popeth am brisiau hael. Gwerthwyd buchod Henffordd beichiog am tua $900 yr un (fel arfer mewn lotiau o 20 o anifeiliaid) ac aeth y defaid Merino beichiog am tua $45, fel arfer mewn lotiau o gant. Aeth y rhai â gwlân mân (16.3 micron) am $55. Aeth yr hyrddod am $50 yr un. Llwyddom i brynu 20 o wartheg a phrynodd Coco, brawd fy nhad-yng-nghyfraith, 40 ar gyfer ei fferm yn Corcovado.
Roedd cryn dipyn o ffermwyr Cymreig Y Wladfa yn y digwyddiad.
Yn y lluniau, mae perchennog newydd Estancia Amancay, Miguel Mirantes, yn cymryd amser i ffwrdd o'i dŷ te prysur iawn yn Gaiman, Tŷ Te Caerdydd (lle cafodd Ledi Di baned ar ei hymweliad ym 1995), i rannu jôc gydag Arnold Dalar Evans, mab Vicente Evans y Gaucho Cymraeg, un o hoelion wyth y gymuned Gymraeg yn Nhrevelin . Yn sefyll gyda’r papur yn ei law mae fy mrawd-yng-nghyfraith, Alejandro Luque. Ganddo fo oedd y gwaith o gludo'r gwartheg yn ôl i'r fferm.
Comments